Friday 26 June 2020

New Project - Prosiect Newydd!


Aberystwyth at War: A people's voices in a people's war  1939-1945


At the end of the WWI project Aberystwyth at War 1914-1919: Experience, Impact, Legacy, we applied to the National Heritage Lottery Fund for funding to do a follow up project on Aberystwyth during the Second World War. This application was successful in January this year and the project was due to start in March. 

Then came Covid-19!

Fortunately, the project start was only delayed by a couple of months.  The post of project coordinator/community engagement officer was  advertised in May and interviews held in June, and the project officially started on 22nd June.   

Initially, while lockdown slowly eases, the project will be run remotely with the hopes of physically returning to the Department of History and Welsh History in September. In the meantime, we are actively recruiting volunteers, so if you think you'd like to volunteer with the project, email Kate, project coordinator, on kas99@aber.ac.uk. 

Project publicity will be appearing soon, on social media and leaflets around the town, giving full details of the project aims and the events and activities we are planning over the next 21 months.  

This project will be similar to the WWI project but with the addition of orally recording the memories of people who remember the Second World War in Aberystwyth.  If you have any memories, or would like to participate in recording them, please get in touch!

Go to WWII Blog 

****


Aberystwyth a Rhyfel:  Lleisiau pobl mewn rhyfel pobl 1939-1945 


Ar ddiwedd prosiect Aberystwyth a Rhyfel 1914-1919: Profiad, Effaith, Etifeddiaeth, gwnaethom gais i Gronfa'r Loteri Treftadaeth Genedlaethol am arian i wneud prosiect dilynol ar Aberystwyth yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd y cais hwn yn llwyddiannus ym mis Ionawr eleni ac roedd disgwyl i'r prosiect ddechrau ym mis Mawrth. 

Yna daeth Covid-19!

Yn ffodus, dim ond ychydig fisoedd y cafodd y prosiect ei ohirio. Hysbysebwyd swydd cydlynydd y prosiect / swyddog ymgysylltu cymunedol ym mis Mai a chynhaliwyd cyfweliadau ym mis Mehefin, a dechreuodd y prosiect yn swyddogol ar 22 Mehefin.

I ddechrau, tra fod y 'lockdown' yn codi yn araf bach, bydd y prosiect yn cael ei redeg o bell gyda'r gobeithion o ddychwelyd yn gorfforol i'r Adran Hanes a Hanes Cymru ym mis Medi. Yn y cyfamser, rydym wrthi'n recriwtio gwirfoddolwyr, felly os ydych chi'n meddwl yr hoffech chi wirfoddoli gyda'r prosiect, e-bostiwch Kate, gydlynydd y prosiect, ar kas99@aber.ac.uk.

Bydd cyhoeddusrwydd am  y prosiect yn ymddangos yn fuan, ar gyfryngau cymdeithasol a thaflenni o amgylch y dref, gan roi manylion llawn o amcanion y prosiect, a'r digwyddiadau a gweithgareddau yr ydym yn eu cynllunio dros yr 21 mis nesaf. 

Bydd y prosiect hwn yn debyg i brosiect WWI ond gydag ychwanegiad o gofnodi atgofion pobl sy'n cofio'r Ail Ryfel Byd yn Aberystwyth. Os oes gennych unrhyw atgofion, neu os hoffech gymryd rhan yn y helpu casglu'r hanes hwn, cysylltwch รข ni!

Ewch i Flog WWII